Yn diweddar des i ar draws llyfr o’r enw 'Restored', sef llawlyfr gyda safbwynt Gristnogol ar gyfer menywod sy’n dioddef trais yn y cartref. Mae’n llyfr defnyddiol iawn nid yn unig i ddioddef-wragedd, boed â ffydd Gristnogol neu heb ffydd, ond hefyd i’r rhai sydd yn eu bugeilio. Y mae adran sy’n ystyried agweddau diwinyddol perthnasol a ddylai fod yn ddefnyddiol i bob Cristion.
Yr un sy’n cam-drin, meddai’r adran hon, yw’r pechadur ac nid yr un sy’n ceisio gadael amgylchiadau o gam-drin. Fe ddylai hyn fod yn amlwg ond mae rhai Cristnogion yn defnyddio’r Beibl i geisio cyfiawnhau cam-driniaeth! Pan mae’n siarad gyda gwrywod, mae Iesu yn derbyn ysgariad fel canlyniad i odineb ac y mae Paul yn derbyn ysgariad pan mae’r cymar wedi ymadael. Nid ydynt yn gwrthddweud ei gilydd. Mae’r ddau yn siarad yn nghyd-destun holl ddysgeidiaeth yr Ysgrythurau ynglŷn â cham-drin y rhai gwan mewn cymdeithas. Mae dysgeidiaeth Iesu yn pwysleisio rhyddid i'r rhai dan ormes, cyfiawnder i’r gorthrymedig, a chydnabyddiaeth i’r rhai ar ymylon cymdeithas, yn ogystal â thrugaredd a maddeuant.
Er mai priodas lle mae’r ddau gymar yn caru ac ymgeleddu ei gilydd yw’r ddelfryd Feiblaidd, nid yw’n bosibl adfer priodas os nad yw’r cymar sy’n cam-drin yn edifeiriol. Nid yw priodas Gristnogol yn bosibl heb amodau sy’n amddiffyn y cymar sy’n dioddef pan dorri’r addunedau priodasol. Dadleuir gan rhai fod dioddefaint yn achubol ond nid yw hyn yn wir pob amser ac yn sicr ddim yn wir am drais yn y cartref o safbwynt y dioddefwyr. Mae rhai Cristnogion sy’n annog menywod i aros mewn perthynas dreisgar yn rhannol gyfrifol am barhad y trais hwnnw.
Dylai eglwysi fod yn pwysleisio adferiad a chymorth i’r rhai â gam-driniwyd. Tuedd rhai Gristnogion yw rhuthro i bwysleisio maddeuant, heb ystyried â yw’r cymar sy’n cam-drin yn edifar mewn geiriau yn unig efallai a heb newid ei weithredoedd. Mae hyn yn ychwanegu at ddioddefaint yr un a gam-driniwyd. Fel arfer nid yw aelodau eglwysig yn ymwybodol o’r blinder llethol sy’n dilyn y profiad o fyw dan ormes am gyfnod maith, a’r holl bwysau ychwanegol o ail greu cartref ar ôl hynny. Daw adferiad ysbrydol, gan gynnwys ystyried maddeuant i gyn-gymar, yn raddol.
Anaml iawn y mae aelodau eglwysig yn sylwi nad yw camdriniaeth o pob math yn gorffen gyda’r ysgariad bob tro, oherwydd gall barhau drwy ystelcian a bygythiadau, neu trwy ledu straeon celwyddog neu drwy ddefnyddio plant y briodas fel cyfle i greu trafferthion i’r cyn-gymar, tra mae’r cyn-gymar yn gwneud ei gorau dros y plant.
Ar ôl dioddef trais yn y cartref, mae’r wraig, sydd yn aml yn beio ei hun, angen sicrwydd nad hi oedd yn gyfrifol. Ond y mae angen hefyd am gefnogaeth trwy’r profiad hir o wella a’r sicrwydd fod Duw yn ei charu hi yn ddiamod er mwyn iddi fedru credu ei bod yn ferch i Dduw.
Braf yw gweld llyfr Cristnogol ar drais yn y cartref. Buasai’n fendithiol iawn petasai’r testun yn cael ei drafod yn fwy aml yn ein pulpudau a’n heglwysi gan roi terfyn ar y mudandod llwyr ar y testun mewn eglwysi Cymraeg.
Rwth Tomos
Mae “Restored, a Handbook for Female Survivors of Domestic Abuse,” gol. Esther Sweetman, cyhoeddwyd 2019, ar gael trwy cysylltu â info@restored-uk.org neu www.restored-uk.org.
Comments