top of page

Adfent: Dyfodiad


Golygfa 1: Dyfod mewn barn. 


Tybed faint ohonoch sy’n cofio’r gyfres deledu ddychanol, dreiddgar honno oedd yn boblogaidd yn ystod 80au’r ganrif ddiwethaf, sef Spitting Image?  Pan ofynwyd i mi lunio pwt ar thema’r Adfent, golygfa o un o’r rhaglenni hynny a gynigiodd ysbrydoliaeth imi!  Fel hyn rwy’n ei chofio.

 

Mae nifer o offeiriaid mewn gwisgoedd rhwysgfawr wrthi’n brysur y tu mewn i eglwys gadeiriol hardd, gyfoethog iawn yr olwg.  Yn sydyn, maen nhw’n cael neges yn eu rhybuddio bod Iesu Grist am daro heibio iddynt, a’i fod eisoes ar ei ffordd.  ‘Brysiwch’, medd un ohonynt mewn panig wrth y lleill, ‘Cuddiwch yr holl aur yna, yr addurniadau, a’r gemau gwerthfawr sydd o amgylch y groes. O ia - a rhowch y cyfrifon ariannol mewn cwpwrdd yn rhywle, a pheidiwch â gadael iddo glywed am yr holl gynllwynio ac ati sy’n mynd ymlaen yma.  A da chi, tynnwch y gwisgoedd ysblennydd yna, a gwisgwch rywbeth carpiog.  Mae’n dod!’

 

Bues i weld y ffilm Conclave yr wythnos ddiwethaf, ffilm sy’n seiliedig ar nofel gan Robert Harris, ac mae’n ymdrin â’r union themâu a gafodd eu darlunio gan Spitting Image ddeugain mlynedd yn ôl: mae’r ffilm yn werth ei gweld.  Mewn un man, mae’r Cardinal Thomas Lawrence (sy’n cael ei chwarae’n wych gan Ralph Fiennes) yn cyffesu, er bod ei ffydd yn gadarn, ei fod wedi ei ddadrithio’n llwyr gan yr eglwys.  


Glanha dy Eglwys, Iesu mawr -

ei grym yw bod yn lân.

 

Golygfa 2:  Dyfod mewn gogoniant.

 

Mae’n fis Gorffennaf, 1962, ac mae Euros Bowen yn sefyll y tu mewn i eglwys gadeiriol newydd Coventry, sydd wedi ei hadeiladu ochr yn ochr â’r gadeirlan wreiddiol a gafodd ei dinistrio bron yn llwyr gan fom yn ystod yr ail ryfel byd.  Sefyll yn y fedyddfa y mae’r bardd, yn syllu ar y ffenestr liw fawr sydd yno.  Gyda hyn, wrth sylwi ar y golau canol euraid sydd ym mhatrwm y ffenestr, a’r lliwiau o’i gwmpas, a’r fedyddfa’n ferw i gyd, daw i’w feddwl oleuni gogoniant y Crëwr, y Shecina dwyfol, ‘y disgleirdeb yn bod er tragwyddoldeb, y Golau cyn bod creu.’  Caiff hedyn ei blannu yn ei feddwl, a maes o law byddai’r hedyn hwnnw’n tyfu nes rhoi inni ei awdl odidog, ‘Genesis’.

 

Arhosodd yr olygfa honno yn ei feddwl wrth iddo lunio’r awdl, ac ni allai ddianc rhag yr argraff a greodd y berw a’r goleuni yn y ffenestr arno y diwrnod hwnnw.  Rhannodd ei awdl yn dri chaniad:  genesis y byd, yn dwyn i gof ddisgrifiad llyfr Genesis o’r berw oedd yn bod pan oedd y ddaear ‘yn afluniaidd a gwag’; genesis Crist, gan ganolbwyntio ar y Forwyn Fair, ‘A champau sêr sydd o’i chwmpas hi’; a genesis y Cristion. Am yr olaf, dywed:  ‘Mae’r goleuni’n oleuni ffrwythlon… Y mae’r Golau’n iechyd, yn ail-genhedlu dyn’ - a hynny er gwaethaf ei ‘bechadurusrwydd’.


‘A dyn a wêl ein Duw ni

o’i lân yn llawn goleuni.’


Daw holl ystyr yr Adfent yn glir yn y ddau bennill sy’n cloi’r awdl:

   'O win y ffynnon,

    a’i dŵr yn dirion,

aed ar y galon wrid o’r Golau; 

   aed ei ras drosom

   yn iraidd erom,

yn geni ynom, a gwyn ninnau.’

 

Glyn Tudwal Jones

Caerdydd

8 Rhagfyr 2024

Comments


bottom of page