top of page

A oes ffordd arall ?

Trais yn esgor ar drais; ymosodiad yn sbarduno gwrthymosodiad. Rydym ni mor gyfarwydd â chlywed am y patrwm diddiwedd hwn o ymddwyn, cylch dieflig sy’n maglu unigolion, cymunedau a chenhedloedd yn ei gyfrangau creulon. Wrth wrando ar fwy o newyddion torcalonnus o’r Dwyrain Canol, Wcráin, Swdan, Myanmar, Haiti a llu o fannau eraill gofynnwn a oes modd dianc rhag y ffordd enbyd hon o fyw ac, i’r dioddefwyr, o farw?


Ar noson ei atgyfodiad, ymddangosa Iesu i’w ddisgyblion yn ôl Efengyl Ioan (20:19-23), i’r criw bach hwn sydd wedi eu parlysu gan ofn ac yn cuddio mewn ystafell dan glo. Cânt ei adnabod nid trwy ei wedd arferol na’i lais cyfarwydd ond trwy weld ei ddwylo a’i ystlys, creithiau’r artaith angheuol a ddioddefodd ddeuddydd yn gynt dan rym haearnaidd ymerodraeth Rhufain. Heblaw am y disgybl roedd yn ei garu, ffoi a wnaeth y gweddill adeg y croeshoelio ac, yn achos Pedr, ei wadu deirgwaith. Yn rhyfeddol, nid ceryddu na cheisio dial mae Iesu ond llefaru “Tangnefedd i chwi!” i’r dynion anwadal, anffyddlon hyn. Erbyn diwedd y bennod hon, mae’n llefaru’r geiriau chwyldroadol hyn deirgwaith (20:19, 20:21, 20:26), trefn fwriadol efallai sy’n cyfateb i wadiad triphlyg Pedr (18:17; 18:25; 18:27). Felly mae Iesu’n ymateb i wamaldra dynol gyda gallu trawsnewidiol dwyfol. Wrth lefaru “Tangnefedd!” mae’n ei osod ei hun yn y bwlch rhwng ymosodiad gwreiddiol y croeshoelio a’r posibilrwydd o dalu’r pwyth yn ôl – ac yn rhoi stop ar y cylch oesol hwn. Tangnefedd. Tangnefedd. Tangnefedd. Dyma’r “Dioddefus sy’n Maddau” (i fenthyg teitl addasiad Cymraeg Enid Morgan o waith James Alison), dyma’r un sy’n rhoi gwawr gobaith i ni mewn byd o anfadwaith a mileindra ble mae’n ymddangos nad oes modd torri cylch dial a dioddef.


Ond a ydy byw – a marw – o fewn y cylch diddiwedd hwn yn llwyr anochel? Sylwn nad yw Iesu’n gadael ei ddisgyblion syn fel rhai sydd wedi derbyn maddeuant yn unig, ond rhai sydd hefyd yn datgan maddeuant (20:23) – rhaid cynnig i eraill y rhodd maen nhw eu hunain wedi ei derbyn. Er mwyn eu grymuso ar gyfer y weinidogaeth annisgwyl hon, mae Iesu’n anadlu arnynt yr Ysbryd Glân (20:22). Mae’n debyg bod Ioan am adleisio’r hanes yn Genesis 2:7 o Dduw yn creu’r dyn cyntaf “o lwch y tir, ac [anadlu] yn ei ffroenau anadl einioes.” Felly mae’r efengylydd yn awgrymu bod gweithred Iesu ar y noson honno yn lansio creadigaeth newydd, geni cymuned sy’n byw yn ôl safonau gwahanol, sydd i gyhoeddi trugaredd yn lle trais, gwireddu caredigrwydd yn lle cosb.

Mae’r darlun hwn yn un digon heriol i ni wrth feddwl am ein perthynas bob dydd â’r rhai sydd wedi ein brifo neu’n bradychu. Byddai rhai yn honni bod ceisio estyn yr un fath o agwedd at fyd dyrys gwleidyddiaeth rhyngwladol yn llwyr afrealistig a naïf. Ond i ni sy’n arddel y gwas dioddefus yn Arglwydd bywyd ac yn Frenin yr hollfyd a oes yna ffordd arall?


Ainsley Griffiths

16 Ebrill 2024


bottom of page