Rydw i newydd basio carreg filltir, sef chweched mis gweinidogaeth newydd yng ngorllewin Caerdydd yn esgobaeth Llandaf.
Bachgen o Gasnewydd ydw i ac rwyf wedi dychwelyd i’r de ar ôl bron i dri degawd o weithio yng ngorllewin a gogledd Cymru. Rwyf wedi byw a gweithio mewn tair esgobaeth o’r chwech yn y teulu Anglicanaidd Cymreig. Ynddynt yr oedd y Gymraeg yn cael ei defnyddio’n amlach ym mywyd beunyddiol y gymdeithas ac hefyd yn yr eglwys â'r capel. Am brofiad anhygoel!
Mae Treganna a gorllewin Caerdydd wedi profi ei fod fel Caerdydd fy ieuenctid, pan oedd fy ymwybyddiaeth o’r Gymraeg yn druenus o gyfyng, a lle nad oedd traddodiad catholig yr Eglwys yng Nghymru yn golygu ond un peth: Tractariaeth oes Fictoria neu Eingl- Babyddiaeth o ryw flas neu’i gilydd.
Anglicaniaeth oedd hon, yn bennaf, a oedd yn anoddefgar o weinidogaeth merched, yn wleidyddol geidwadol ac yn dal yn sownd yn nhraddodiadau eglwysig yr Eglwys yng Nghymru yn y 1920au, pan ddatgysylltwyd yr eglwys Anglicanaidd oddi wrth Eglwys Loegr.
Mae dychwelyd i’r hen fyd diwylliannol cyfyng hwn wedi bod yn heriol; nid yn lleiaf oherwydd y defnydd cyson gan bobl mewn eglwys a chymuned o’r teitl ‘Tad’ yn hytrach na’r ‘Parchedig’, ‘ficer’ neu ‘weinidog’ arferol yr oeddwn yn gyfarwydd ag ef yn esgobaethau’r gogledd.
Mae wedi fy ngadael yn hiraethu am y Gatholigiaeth ymgnawdoledig yr ydym wedi ei galw yn Geltaidd neu'n Greadigaeth-ganolog yn y blynyddoedd diwethaf ac sy'n gweld Duw ar waith yn y byd ac yn y greadigaeth gyfan. Dyma draddodiad sydd wedi’i seilio ar feddylfryd mynachaidd syml sy’n rhoi gweddïo wrth galon bywyd eglwysig – bywyd eglwysig sy’n agored, yn gynhwysol, yn groesawgar ac yn hael ei chalon.
Ar ei gorau mae’r Eglwys yng Nghymru yr wyf i wedi’i phrofi yn y rhannau hynny o Gymru sy’n cymryd iaith a diwylliant Cymru o ddifri wedi caniatáu i’r traddodiad hynafol hwn fod yn ganolbwynt i fodelau newydd ac ysbrydoledig ar gyfer bywyd eglwysig yn y dyfodol.
Mae yna hyder rhyfeddol newydd yn niwylliant Cymru yn y ddinas flaengar hon sy'n rhoi gobaith i mi. Gobeithio bod y Gristnogaeth syml, gartrefol a pherthnasol a ddarganfyddais yn y traddodiad ysbrydol Cymreig yn parhau i wreiddio ei hun ym mywyd y lle hwn ac yn adnewyddu gweledigaeth yr eglwysi hynny sy’n ceisio byw’r alwad i fod yn Gristnogion Cymreig yn y ddinas hon ac ar draws ein hannwyl genedl.
Y Parch. Andrew Sully
15 Medi 2024
Comments