Yn ddiweddar cefais wahoddiad i ymuno mewn cwrdd gweddi yn Rotherham. Bu paratoi trylwyr. Defnyddiwyd fersiwn o “Gweddi’r Arglwydd” mewn iaith gynhwysol a dosbarthwyd nifer o weddïau mewn iaith gynhwysol, ar gyfer y rhai nad oedd yn hyderus i weddio yn eu geiriau eu hunain.
Yn y bregeth gyntaf a glywais ar ôl dychweled i Gymru clywais y geiriau hyn, “Mae Duw yn ein caru ni fel tad ac yr ydym i GYD yn gwybod hynny, WRTH GWRS, wrth feddwl am ein tadau ein hunain". Doedd y pregethwr ddim yn adnabod fy nhad ac rwy’n weddol sicr nad oedd yn adnabod tadau mwyafrif y gynulleidfa. Cofiais mor gysurus oedd iaith gynhwysol Rotherham.
Yn ei hunangofiant, “La Gloire de Mon Pere,” mae Marcel Pagnol yn dweud iddo ddarganfod bod gan ei dad annwyl, anffaeledig, yr un gwendidau a gweddill y ddynolryw. Mae hyd yn oed y rhai sydd â thad mor dda â Pagnol yn sicr o ddarganfod yr un peth. Ond mae yna dadau fel Jefftha hefyd (gw. Barnwyr 11 a 12 – y milwr a aberthodd ei ferch). Mae menywod (ac ambell ddyn) sydd wedi dioddef camdriniaeth gan eu tadau (neu dadau eu plant) yn anesmwyth iawn gyda’r defnydd o'r gair 'tad' i ddarlunio Duw, ac mae nifer ohonynt wedi gadael eglwysi felly.
Mae ystyr 'tad' wedi newid ers cyfnod Iesu, pan oedd tadau yn gweithio gartref neu yn agos i'r cartref ac felly yn hyfforddi eu plant. Ers y chwyldro diwydiannol mae tadau yn gweithio oddi cartref am oriau maith, gan adael y cyfrifoldeb dros fagu’r plant i’r fam. Yn yr Oesoedd Canol hawliodd rhai clerigwyr y teitl 'Tad' (a rhain yn unig oedd â’r awdurdod i faddau pechodau), gan lwytho’r gair ‘tad’ efo awdurdod anhygoel. Os trafodir iaith gynhwysol mewn eglwysi Cymraeg, dywedir, “Ond galwodd Iesu Duw yn dad,” a dod â’r drafodaeth i ben ! Ysgrifennwyd y Beibl mewn cyfnod patriarchaidd, felly mae’r eirfa yn wrywaidd. Ond nid yw hynny'n cyfiawnhau y gorddefnydd o’r gair 'tad' mewn gweddïau a myfyrdodau cyfoes. Fe'i defnyddir weithiau yng nghyd-destun 'Ein Tad Nefol' neu 'Tad ein Ceidwad Iesu', ond fe#i defnyddir hefyd yn rhy aml o lawer ar ei ben ei hun heb unrhyw gyd-destun.
Gellir adnabod cyfieithiadau yn syth. Nid yw 'dad' yn ymddangos yn aml. Yn y deunydd ar gyfer Dydd Gweddi’r Byd eleni defnyddiwyd y gair 'dad' ddwywaith yng nghyd-destun y Drindod ac ar ddechrau Gweddi’r Arglwydd yn unig. Mae oddeutu naw ymgais arall i ddarlunio Duw, bron pob un yn wahanol i’w gilydd. Heblaw am 'Arglwydd' (sydd wedi colli ystyr ar wahan i gyd-destun gwleidyddol), yn anaml defnyddir geiriau eraill i geisio cyfleu natur Duw yn y Gymraeg. Mae unrhyw ymgais i gyfleu ei natur mewn geiriau yn annigonol. Oni ddylem ddefnyddio geirfa amrywiol?
Nid yw’r gor-bwyslais ar 'tad' yn ddim ond rhan o’m hanfodlonrwydd i ddefnyddio iaith gynhwysol gyfoes mewn addoliad. (Nid wyf yn golygu benthyg geirfa o’r Saesneg!) Ydy hi’n ormod gofyn i bawb, ond yn arbennig i bregethwyr, awduron a golygyddion, i edrych yn fwy manwl ar yr eirfa maent yn ei ddefnyddio am Dduw, gan ystyried bod 'dad' yn gallu bod yn ddelwedd anodd i rai? Efallai y bydd hyn yn arwain at adnewyddu ein geirfa grefyddol ymhellach.
Rwth Tomos
14 Gorffennaf 2024
コメント